Adroddiad gan Branwen Roberts, Blwyddyn 12
Bore dydd Mawrth y pedwerydd ar bymtheg o Ionawr, ymwelodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood â’r ysgol. Cafodd y chweched cyfan sesiwn tuag awr i wrando ar safbwyntiau a syniadau Leanne. Cawsom gyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â materion cyfoes sydd yn ein heffeithio, megis y toriadau posib i’r ffioedd dysgu yng Nghymru a’r sefyllfa bresennol gyda’r argyfwng ffoaduriaid. Cawsom hefyd drafodaeth ar sut brofiad yw bod yn fenyw yng ngwleidyddiaeth. Roedd y drafodaeth yn ddiddorol iawn ac fe rhoddodd weledigaeth newydd ar wleidyddiaeth i nifer gan gyflwyno safbwyntiau gwahanol.