Y Daith Ddysgu
|
‘Taith yw addysg, nid cyrchfan.’
Albert Einstein
Yn Ysgol Gyfun Garth Olwg rydym yn darparu ar gyfer pob un o’n dysgwr, profiadau addysgol eang, cytbwys, heriol, blaengar a pherthnasol, wedi eu hanelu at ddatblygu pob disgybl yn unigolyn cyflawn, yn ddysgwr hyderus ac yn oedolyn ifanc llwyddiannus. Rydym am i’n disgyblion fwynhau eu dysgu ac i ddod i ddeall sut fath o ddysgwyr ydynt a sut y dysgant orau. Rydym am i’r profiadau y byddwn yn eu cynnig iddynt ddatblygu, nid yn unig y galluoedd academaidd ond yr unigolyn fel person hefyd.
Gosodwn bwyslais mawr nid yn unig ar y llwybrau dysgu a’r rhaglenni dysgu rydym yn eu darparu, ond hefyd ar sut y mae ein dysgwyr yn dysgu, sut maent yn datblygu a sut y gallant sicrhau orau eu cynnydd personol. Rydym yn ffocysu ar strategaethau dysgu ac addysgu sy’n cynnig cyfleoedd i’n disgyblion dyfu’n ddysgwyr gweithredol a hunan-gynhaliol drwy ddarparu profiadau dysgu sy’n datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u cryfderau personol fel dysgwyr ynghyd â’r hyn sydd ei angen i ddatblygu’n ddysgwyr mwy effeithiol yn y dyfodol. Trwy ddarparu cwricwlwm perthnasol, strategaethau dysgu ac addysgu blaengar a phrofiadau personol cyfoethog ein hamcan yw sicrhau bod ein disgyblin yn tyfu i fod yn unigolion hyderus, yn ddysgwyr llwyddiannus, yn ddinasyddion cyfrifol, ac yn gyfrannwyr effeithiol i fywyd yr ysgol ac i’r gymuned ehangach
Rydym yn ehangu ein dewisiadau ar gyfer ein dysgwyr yn barhaus, fel bod gan bob person ifanc y cyfle i ddilyn llwybr dysgu sy’n ateb ei anghenion, galluoedd a diddordebau mewn modd mwy pwrpaslon a pherthnasol. Mae dewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol Ôl-14 ac Ôl-16, yn cael eu cynnig yma.
Gosodir pwyslais ar ddatblygiad ysbrydol, deallusol, moesol, corfforol a diwylliannol yn ogystal â iechyd personol a ffordd o fyw iach. Rydym am i’n disgyblion ymfalchio yn eu Cymreictod - eu hiaith, eu hetifeddiaeth a’u hunaniaeth unigryw – a phwysleisir hynny gan elfennau amrywiol ar draws eu cwrs addysg.
Mae Partneriaeth Addysg a Busnes Canol Morganneg yn darparu rhaglen Addysg Cysylltiedig a Byd Gwaith ardderchog i bob disgybl o Flwyddyn 7 – 11. Cynigir cyfleoedd cyfoethog i’n disgyblion gydweithio â phobl busnes, cyfarwyddwyr cwmniau a diwydiannwyr yn ogystal â mwynhau ymweliadau i leoliadau y tu allan i’r ysgol er mwyn profi byd gwaith ‘go-iawn’.
Rydym, yn naturiol, yn ymateb i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgir Drama ac Addysg Grefyddol statudol ar draws y cwrs addysg. Bydd pob disgybl 14+ yn dilyn cwrs Technoleg Gwybodaeth yn ogystal. Ym mis Medi 2010 datblygwyd cwrs cyffrous iawn a mwy perthnasol i fyd technoleg fodern. Mae’r cyrsiau AiDA a CiDA yn cynnig cymwysterau mewn gwaith digidiol.
Y Diwrnod Dysgu
Mae 25 o wersi awr bob wythnos – 24 ohonynt yn wersi addysgu pwnc penodol ac 1 yn sesiwn ddysgu gyda’r Tiwtor Personol. Mae disgyblion yn treulio 15 munud bob bore naill ai mewn sesiwn Tutor Personol, Gwasanaeth Llys neu Wasanaeth Blwyddyn.
Cyfnod Allweddol 3: Blynyddoedd 7, 8 a 9
Mae Cwricwlwm Cymru 7- 14 wedi newid yn sylweddol ers Medi 2009 pan ddaeth y Cwricwlwm Sgiliau newydd i rym. Mae’r pwyslais wedi newid er mwyn sichrau bod ein plant a’n pobl ifanc yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy a fydd eu hangen arnynt i fod yn oedolion ifanc llwyddiannus mewn byd sy’n prysur newid.
Mae’r pwyslais yn glir felly ar brofiadau dysgu sy’n datblygu sgiliau – yn benodol sgiliau dysgu a sgiliau meddwl.
Y Cwricwlwm Ffurfiol
Mae pob disgybl yn astudio’r pedwar pwnc craidd sef: Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Yn ogystal dysgir y pynciau anghraidd: Daearyddiaeth, Hanes, Dylunio a Thechnoleg, Iaith Tramor Modern, Celf, Cerddoriaeth ac Addysg Gorfforol.
Er nad ydynt yn bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, dysgir Drama ac Addysg Grefyddol, sy’n bwnc statudol cenedlaethol.
Mae disgyblion hefyd yn mwynhau rhaglen Dyfodol Personol sy’n cyfuno agweddau o addsyg bersonol, cymdeithasol, dinasyddiaeth ac addysg iechyd – drwy sesiynau Grwp Tutor ac ar ddiwrnodau penodol ar hyd y flwyddyn ysgol.
Dysgir disgyblion mewn grwpiau dysgu gallu cymysg yn Mlwyddyn 7 ac mae setio yn digwydd mewn pynciau ym Mlwyddyn 8.
Rhaglen Ddysgu Blwyddyn 7
O ganlyniad i’r newid yn y Cwricwlwm yng Nghymru rydym wedi datblygu rhaglen benodol ar gyfer Blwyddyn 7 a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu i fod yn ddysgwyr mwy effeithiol, hunangynhaliol a llwyddiannus gan osod sylfaen gref ar gyfer datblygiad drwy eu gyrfa ysgol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu cymwyseddau a sgiliau hanfodol i ddysgwyr dyfu’n bobl ifanc hyderus a dinasyddion cyfrifol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ! (bydd y cyswllt ar gael cyn hir!)
Llwybrau Dysgu 14+ (Bl 10+11)
Cynigir amrywiaeth gyfoethog o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ar gyfer dysgwyr 14+ ac rydym eisoes yn ateb gofynion Mesur Sgiliau Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Medi 2010.
Mae’r mwyafrif helaeth o ddisgyblion yn dilyn cyrsiau sydd fel arfer yn arwain at ddeg neu fwy o gymwysterau TGAU. Mae cyflwyno cyrsiau BTEC hefyd yn profi’n boblogaidd iawn gan fod y llwybrau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau sy’n gyfartal â TGAU ond drwy astudio mewn ffyrdd gwahanol - yn aml mewn ffordd fwy ymarferol.
Mae pob disgybl yn astudio’r pedwar pwnc craidd: Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth. Gall ddysgwyr wedyn ddewis o amrywiaeth o gyrsiau – gellir gweld y cyrsiau sy’n cael eu cynnig drwy ddilyn y cyswllt isod.
Cynhelir noson Llwybrau Dysgu Ôl-14 ym mis Mawrth bob blwyddyn. Mae’r noson yn cynnig cyfle i rieni a disgyblion ddysgu mwy am wahanol fathau o gymwysterau a sut i ddewis y llwybr dysgu mwyaf addas ar gyfer unigolyn. Mae croeso i ddisgyblion neu rieni sydd am wybod mwy am y ddarpariaeth sydd ar gael gysylltu gyda’r Dirprwy 14-19 ar unrhyw adeg.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y cyrsiau sy’n cael eu cynnig.
Prosbectws 14+ : mae prosbectws 2010 – 2012 yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. Bydd yn ymddangos ar y wefan hon yn fuan.
LLWYBRAU DYSGU Ôl-16
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau gwahanol yn Ysgol Gyfun Garth Olwg sy’n adeiladu ar ddarpariaeth
Ôl-14 ac yn ffurfio llwybrau dysgu llwyddiannus ar gyfer ein dysgwyr. Cynigir dros 21 o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ar hyn o bryd. Mae’r nifer o ddisgyblion sy’n dychwelyd i Garth Olwg ar gyfer eu hastudiaethau Ôl-16 wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac ym mis Medi 2009 dychwelodd dros 80% o ddisgyblion Blwyddyn 11 i’r 6ed Dosbarth. Cynigir llu o weithgareddau cyfoethogi, cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon sy’n ymestyn profiadau a sgiliau dysgwyr. Rydym yn cynnig profiadau a chyfleoedd gwerthfawr i’n dysgwyr ddatblygu rolau a nodweddion arweinyddol cryf. Mae myfyrwyr y 6ed Dosbarth yn cefnogi’r disgyblion iau mewn amryw o agweddau o fywyd a gwaith yr ysgol yn ogystal â gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned ehangach.
Mae’r myfyrwyr yn cefnogi cyrsiau iaith blynyddoedd 7 ac 8 yn Llangrannog. Maent yn cefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd drwy fod yn fentoriaid darllen i ddisgyblion iau. Maent hefyd yn cynorthwyo gyda’r Clwb Rhifedd yn ogystal â chynnig cefnogaeth mewn meysydd eraill ar draws yr ysgol, yn bennaf yn y pynciau maent yn eu hastudio eu hunain. Y 6ed hefyd sy’n rhedeg Uwch-Adran yr ysgol, sy’n cael ei hybu hefyd gan ein Gweithiwr Ieuenctid. Mae’n gyfle i’r disgyblion iau fwynhau gweithgareddau’r Urdd a gweithgareddau all-gyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i oriau’r ysgol.
Bagloriaeth Cymru
Rydym fel ysgol yn ymfalchio i ni gael ein dyfarnu’n ganolfan i gyflwyno Bagloriaeth Cymru ers Medi 2009 – sy’n cynnig profiadau cwricwlaidd ehangach a mwy cytbwys i fyfyrwyr 16 – 19. Mae myfyrwyr yn gyffredinol yn dewis astudio tri chwrs Uwch Gyfrannol ochr yn ochr â’r Fagloriaeth, ond nid yw hynny’n atal myfyrwyr rhag astudio mwy o gyrsiau Uwch Gyfrannol os yn dymuno gwneud hynny. Mae cwblhau rhaglen y Fagloriaeth yn rhoi cymhwyster Gradd A Safon Uwch i bob myfyriwr. Mae’r Fagloriaeth yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr Garth Olwg ddatblygu’n unigolion hyderus, yn ddysgwyr annibynnol a dinasyddion cyfrifol. Mae’r astudiaethau cyfoethogi, sy’n cynnwys:
· Y cwricwlwm craidd
· Sgiliau hanfodol
· Astudiaethau academaidd
· Gwaith cymunedol a gwirfoddol
yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a nodweddion personol a fydd yn hybu datblygiad yr unigolyn cyflawn – sgiliau penodol sy’n hanfodol yn ein bywyd bob dydd ac y mae cyflogwyr yn galw amdanynt.
Mae dilyn y rhaglen hefyd yn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn gallu cwblhau ceisiadau cryf a llwyddiannus i amrywiaeth eang o gyrsiau Prifysgol yn ogystal ag agor cyfleoedd gyrfaol eang drwy Gymru, Prydain a thu hwnt.
Ar hyn o bryn mae 92 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen. Dilynwch y cysylltiadau isod i gasglu mwy o wybodaeth am y rhaglen.
Gwefan y Fagloriaeth: www.wbq.org.uk/ hefyd www.cbac.co.uk/?level+112 a chlicio ar y cyswllt yn y ffenestr ar y chwith.
Noson Hyrwyddo Llwybrau Dysgu Ôl-16
Cynhelir noson hyrwyddo llwybrau dysgu Ôl-16 ym mis Mawrth bob blwyddyn. Mae’r noson yn cynnig cyfle i ddisgyblion a rhieni ddysgu mwy am gymwysterau gwahanol a sut i ddewis y cam nesaf ar lwybr gyrfa unigolyn. Serch hynny, gall ddisgyblion a/neu rieni sydd am wybod mwy am ein darpariaeth gysylltu ag Arweinydd y 6ed Dosbarth, Ms Menna Thomas, ar unrhyw adeg.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael Ôl -16.
Prosbectws Ôl-16: mae prosbectws 2010 – 2012 yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. Bydd yn ymddangos ar y wefan hon yn fuan.
PARTNERIAETHAU
CYFLEOEDD
Gweithiwn yn agos iawn gyda’n chwiorydd ysgolion Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf yn ogystal â Choleg Morgannwg. Rydym yn gweithio mewn consortiwm o’r enw CYFLEOEDD er mwyn sichrau bod gan ein myfyrwyr y dewis ehangaf posibl o gyfleoedd dysgu a chyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Trefnwn weithgareddau ar y cyd hefyd e.e. gweithdai meistri Y Gyfraith. Gweithiwn yn agos gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y De yn ogystal – cynhelir cynadleddau a gweithgareddau ar y cyd fel rhan o raglan Bagloriaeth Cymru.
Mae Darparwyr allanol hefyd yn cyfoethogi ein darpariaeth Ôl-14 ac Ôl-16. Gweithiwn ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin, Cam wrth Gam, Louis Michael Consultancy, Ymddiriedolaeth y Tywysog, yr Urdd a Sportstrain, yn ogystal â nifer o ddarparwyr unigol.
Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg
Rydym yn hynod ffodus bod ein Campws yn cynnwys y Ganolfan Gydol Oes. Mae’n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer disgyblion yr ysgol o Flwyddyn 7 – 13. Mae’r disgyblion yn gallu mynychu gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y Ganolfan yn ystod y dydd. Ond y fantais fwyaf yw bod y Ganolfan yn cydweithio gyda staff yr ysgol er mwyn cynnal gweithgareddau arbennig i gyd-redeg â chyrsiau penodol o fewn yr ysgol.
Bu aelodau’r 6ed yn mynychu cwrs Sbaeneg a ddarparwyd ar eu cyfer cyn iddynt fynd ar yr alldaith i Costa Rica. Mae Blwyddyn 9 wedi elw o sawl diwrnod peirianneg. Bydd yr adrannau Saesneg a Hanes yn aml yn cydweithio gyda’r Ganolfan ermwyn darparu cyfleoedd i’r disgyblion brofi cyflwyniadau dramatig perthnasol i’w cyrsiau - a bydd disgyblion y cwrs Arlwyo yn cael ymarfer eu sgiliau drwy ddarparu lluniaeth ar gyfer gweithgareddau megis Dawnsio Amser Te!
ADDYSG GYRFAOEDD
Mae gennym raglan Addysg Gyrfaoedd eang. Er bod y broses o wneud penderfyniadau, i bob pwrpas yn dechrau gyda dewis Llwybrau Dysgu 14+ ym Mlwyddyn 9, mae profiadau gyrfaol a byd gwaith ym Mlynyddoedd 7 ac 8 hefyd. Mae gwersi gyrfaoedd penodol ar amserlen dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Gweithiwn yn agos iawn gyda Gyrfa Cymru, sy’n darparu Swyddog Gyrfaoedd i’r ysgol am bedwar diwrnod yr wythnos. Mae’r Swyddog Gyrfaoedd yn cynnal cyfweliadau unigol i Flynyddoedd 10 ac 11 a chyfleoedd trafod i ddisgyblion ar draws yr ysgol.
Mae Partneriaeth Addysg Busnes Morgannwg Ganol hefyd yn darparu rhaglen gynhwysfawr sy’n sicrhau bod disgyblion pob blwyddyn ysgol yn cael cyswllt â byd gwaith. Trefnant gyfweliadau ffurfiol ar gyfer Blwyddyn 11 fel rhan o’r cynllun Byd Gwaith ysgol gyfan.
Mae rhaglen Profiad Gwaith ar ddiwedd Blwyddyn 10 a Blwyddyn 12.
Cynigir cyfleoedd cynghori cyson i Flynyddoedd 12 a 13, yn benodol mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynglŷn ag Addysg Uwch.
The in Years 1-11 is broad and balanced: Curricular – genera
CEFNOGI DYSGU
Anghenion Addysgol Ychwanegol.
Ein hathroniaeth yma yn Ysgol Gyfun Garth Olwg yw y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfleoedd gorau i gyflawni eu potensial llawn.
Rydym yn dilyn y Côd Ymarfer cenedlaethol mewn perthynas â disgyblion a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol. Aelod o’r Tîm Arwain yw Cyd-lynydd AAY yr ysgol ac mae staff cynorthwyol ac athrawon yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad addysgiadol a chymdeithasol disgyblion ar y Cam Gweithredu Ysgol.
Gweithiwn yn agos iawn gyda Gwasanaethau Cefnogi’r Awdurdod Lleol ac rydym yn darparu rhaglenni penodol ar gyfer disgyblion â datganiad neu sydd ar Weithredu Ysgol a Mwy. Bydd y Cynllun Addysgol Unigol yn cael ei ddatblygu drwy gydweithio gyda’r disgyblion a rhieni/gofalwyr.
Mae pob Adran yn dewis cyrsiau ac adnoddau addas ar gyfer gallu disgyblion, gan gynnwys disgyblion galluog a thalentog.
Trosglwyddo gwybodaeth am Anghenion Dysgu o’r Cynradd
Mae’r Cydlynydd AAY yn ymweld â phob un o’n hysgolion cynradd cysylltiedig sawl gwaith yn ystod y flwyddyn cyn trosglwyddo. Yn ystod Tymor y Gwanwyn rydym yn darparu gwasanaeth tebyg i “surgery” pan fydd y cydlynydd AAY yn treulio amser penodol yn yr ysgol gynradd. Mae’r trefniant hwn yn cynnig cyfle i rieni sydd am drafod unrhyw agwedd o addysg eu plant a’r ddarpariaeth a fydd ar gael iddynt mewn awyrgylch hamddenol ac mewn da bryd cyn y trosglwyddo ym mis Medi. Rydym yn annog rhieni i wneud defnydd o’r ddarpariaeth hwn fel y gallwn sicrhau dilyniant yn y gefnogaeth i ddisgyblion a thrwy hynny sicrhau parhad a dilyniant yn eu cynnydd.
|